Fisheries management plans in Wales | Seafish

Fisheries management plans in Wales

Information on FMPs in Wales, offering stakeholders the chance to engage in the process to support a profitable and sustainable fishing industry.

A Welsh translation can be found at the bottom of this page.

Pre-consultation for crab and lobster management

We’re working with the Welsh fishing sector and government on the pre-consultation phase of the Fisheries Management Plan (FMP) developing process. Species in scope of the FMP are brown crab, European lobster, crawfish, spider crab, velvet crab and common prawn.  

Pre-consultation involves gathering views from stakeholders (including fishers, processors, retailers, scientists and NGOs) on current and future management of Welsh crab and lobster fisheries. We want to know what works well, what doesn’t, and what aspirations stakeholders have for the future of these important fisheries.   

The output of this project will be a report to Welsh Government that will help shape the development of the crab and lobster FMP consultation in Wales.  

Get involved

Stakeholders can engage in the pre-consultation process by attending any of the upcoming in-person and online engagement events.   

People from across the Welsh crab and lobster industry are encouraged to attend. The events aim to have a variety of representatives including, fishers, processors, retailers, wholesalers, recreational fishers, science, regulators and non-governmental organisations.     

The events will provide information on:  

  • The development of FMPs in Wales  
  • The purpose of FMPs and why we want to involve stakeholders in the process  
  • What FMPs will deliver 

The events will gather information on:  

  • Stakeholder views on current management approaches in Wales for crab and lobster 
  • Aspirations for the future management of Welsh crab and lobster fisheries   
  • How stakeholders would like to be involved in the upcoming development of the FMP   
  • Expressions of interest for future engagement with Welsh Government on fisheries management  

Event timetable

Details of the events can be found below: 

  • 23rd April, Milford Haven, Torch Theatre (Gallery) 6pm-8pm   
  • 24th April, New Quay, New Quay Yacht Club, 6pm-8pm   
  • 25th April, Bangor, Bangor University Management Centre 6pm-8pm 
  • 30th April, online event, 3pm-5pm, please contact Seafish for the meeting link 

If you are interested in attending the events, sharing your views and learning more about the future of crab and lobster fisheries management in Wales, then contact Holly Kaiser at holly.kaiser@seafish.co.uk  

Cynlluniau rheoli pysgodfeydd yng Nghymru

Gwybodaeth am gynlluniau rheoli pysgodfeydd (FMPs) presennol yng Nghymru, gan gynnig cyfle i randdeiliaid gymryd rhan yn y broses i gefnogi diwydiant pysgota proffidiol a chynaliadwy.   

Rhag-ymgynghoriad ar gyfer rheoli crancod a chimychiaid

Rydym yn gweithio gyda sector pysgota Cymru a'r llywodraeth ar y cam rhag-ymgynghori ym mhroses datblygu'r FMP. Ymhlith y rhywogaethau o fewn cwmpas y prosiect FMP mae crancod brown, cimychiaid Ewropeaidd, crancod llygatgoch, crancod heglog, cimychiaid cochion a chorgimychiaid cyffredin.  

Mae rhag-ymgynghoriad yn cynnwys casglu barn rhanddeiliaid (gan gynnwys pysgotwyr, proseswyr, manwerthwyr, gwyddonwyr a chyrff anllywodraethol) ar reolaeth pysgodfeydd crancod a chimychiaid Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Rydym eisiau gwybod beth sy'n gweithio'n dda, yr hyn nad yw’n gweithio’n dda, a pha ddyheadau sydd gan randdeiliaid ar gyfer dyfodol y pysgodfeydd pwysig hyn.   

Allbwn y prosiect hwn fydd adroddiad i Lywodraeth Cymru a fydd yn helpu i lywio datblygiad yr ymgynghoriad FMP crancod a chimychiaid yng Nghymru.  

Cymerwch ran

Gall rhanddeiliaid gymryd rhan yn y broses rhag-ymgynghori trwy fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb ac ar-lein sydd ar ddod.   

Anogir pobl o bob rhan o'r diwydiant crancod a chimychiaid Cymreig i fynychu. Nod y digwyddiadau yw cael amrywiaeth o gynrychiolwyr gan gynnwys pysgotwyr, proseswyr, adwerthwyr, cyfanwerthwyr, pysgotwyr hamdden, gwyddonwyr, rheoleiddwyr a sefydliadau anllywodraethol.     

Bydd y digwyddiadau yn rhoi gwybodaeth am:  

  • Datblygiad FMPs yng Nghymru  
  • Pwrpas FMPs a pham rydym eisiau cynnwys rhanddeiliaid yn y broses  
  • Yr hyn y bydd FMPs yn ei gyflawni 

Bydd y digwyddiadau yn casglu gwybodaeth am:  

  • Barn rhanddeiliaid ar y dulliau rheoli presennol yng Nghymru ar gyfer crancod a chimychiaid 
  • Dyheadau ar gyfer rheoli pysgodfeydd crancod a chimychiaid Cymru yn y dyfodol   
  • Sut hoffai rhanddeiliaid gymryd rhan yn natblygiad y FMP sydd ar ddod   
  • Datganiadau o ddiddordeb ar gyfer ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar reoli pysgodfeydd  

Amserlen y digwyddiadau

 Mae manylion y digwyddiadau hyn i’w gweld isod: 

  • 23 Ebrill, Aberdaugleddau Torch Theatre (Gallery), 6pm-8pm  
  • 24 Ebrill, Cei Newydd New Quay Yacht Club, 6pm-8pm  
  • 25 Ebrill, Bangor Bangor University Management Centre, 6pm-8pm 
  • 30 Ebrill, digwyddiad ar-lein, 3pm-5pm, cysylltwch â Seafish am ddolen i’r cyfarfod 

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r digwyddiadau, rhannu eich barn a dysgu mwy am ddyfodol rheoli pysgodfeydd crancod a chimychiaid yng Nghymru, yna cysylltwch â Holly Kaiser yn holly.kaiser@seafish.co.uk