Welsh contact directory created to help fishers and families
A new directory of organisations offering support with safety, health, wellbeing and financial security has been launched to support fishermen and their families across Wales.
The bilingual directory, created for the Welsh catching sector and funded by the Welsh Government, is designed to raise awareness of the wide range of services available and how to access them.
Helping those at home
While fishers are often at sea, family members frequently take on the responsibility of contacting organisations, completing paperwork and managing administrative matters on their behalf.
The new guide recognises this, ensuring that both fishers and their families have clear, accessible information at their fingertips.
The new guide has been welcomed by Deputy First Minister with responsibility for Climate Change and Rural Affairs, Huw Irranca-Davies. He said: "Wales has a proud and deeply rooted fishing heritage, and it's vital that the people who work in this demanding industry, and their families, know that support is there when they need it.
“This new bilingual directory is a practical, thoughtful resource that brings together essential information on safety, health, wellbeing and financial security in one accessible place.
"I'm pleased that Welsh Government funding has helped make this a reality, and it's particularly encouraging to see it already reaching fishermen and their families at Seafit Wales events.
“I'd also encourage anyone in the Welsh fishing sector to explore the funding available through the Welsh Marine and Fisheries Scheme.
“Our Fishing Animateurs are on hand to help fishermen access that support, and our ambition remains to see sustainable growth across fisheries and aquaculture while ensuring our coastal communities continue to thrive."
First bilingual contact guide
Inspired by the Welsh agricultural sector’s Farmwell guide, the directory is the first bilingual, catching sector-focused contact guide produced in a physical format for Wales.
The eight-page booklet is available in both Welsh and English ensuring equal visibility and accessibility for both languages and features a QR code which directs users to an online version hosted on the Fisherman’s Mission website.
The content was developed with input from stakeholders including the Welsh Fishermen’s Association, The Seafarer’s Hospital Society and The Fishermen’s Mission.
We also supported the guide’s production.
Samira Anand, our Welsh Industry Engagement Manager, said: “We know that working in the catching sector brings unique pressures - not just for fishermen, but for their families too.
“This directory brings together the organisations that are there to help with safety, health, wellbeing and financial security.
“Having a trusted guide that can be kept at home or on board makes support more visible and easier to access.
“We hope it becomes a valued, go-to resource for fishing families across Wales and strengthens awareness of the excellent support already available.”
Directories now available
Physical copies can be distributed to stakeholders and will be made available at future industry events, with the wider seafood supply chain and stakeholders encouraged to promote the resource within their networks.
The first batch of directories have already reached industry with distribution beginning at recent Seafit Wales events in Saundersfoot and Swansea where fishermen and their families attended to access health and wellbeing services.
The Welsh fishing sector is also currently reminded that funding remains available via the Welsh Marine and Fisheries Scheme with support provided by the Fishing Animateurs to assist fishermen in accessing these funds.
The purpose of the scheme is to ensure sustainable growth in the fisheries and aquaculture sectors while also helping coastal communities to prosper.
Click here for more information.
For further information, please contact: samira.anand@seafish.co.uk
Cysylltiadau hanfodol, gwasanaethau a gwybodaeth hanfodol arall wedi'u cynnwys
Mae cyfeiriadur newydd o sefydliadau sy'n cynnig cymorth gyda diogelwch, iechyd, lles a sicrwydd ariannol wedi'i lansio i gefnogi pysgotwyr a'u teuluoedd ledled Cymru.
Mae'r cyfeiriadur dwyieithog, a grëwyd ar gyfer y sector dal pysgod yng Nghymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi'i gynllunio i godi ymwybyddiaeth o'r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael a sut i gael mynediad atynt.
Er bod pysgotwyr yn aml ar y môr, mae aelodau’r teulu’n aml yn cymryd y cyfrifoldeb o gysylltu â sefydliadau, cwblhau gwaith papur a rheoli materion gweinyddol ar eu rhan.
Mae'r canllaw newydd yn cydnabod hyn, gan sicrhau bod gan bysgotwyr a'u teuluoedd wybodaeth glir a hygyrch wrth law.
Mae'r canllaw newydd wedi cael ei groesawu gan y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies. Dywedodd Huw: "Mae gan Gymru dreftadaeth bysgota falch â gwreiddiau dwfn, ac mae'n hanfodol bod y bobl sy'n gweithio yn y diwydiant heriol hwn, a'u teuluoedd, yn gwybod bod cymorth ar gael pan fydd ei angen arnynt.
“Mae’r cyfeiriadur dwyieithog newydd hwn yn adnodd ymarferol a meddylgar sy’n dwyn gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch, iechyd, lles a sicrwydd ariannol ynghyd mewn un lle hygyrch.
"Rwy'n falch bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi helpu i wireddu hyn, ac mae'n arbennig o galonogol ei weld eisoes yn cyrraedd pysgotwyr a'u teuluoedd yn nigwyddiadau Seafit Wales."
“Byddwn hefyd yn annog unrhyw un yn y sector pysgota yng Nghymru i archwilio’r cyllid sydd ar gael drwy Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru.
“Mae ein ‘Animateurs Pysgota’ wrth law i helpu pysgotwyr i gael mynediad at y cymorth hwnnw, ac mae ein huchelgais yn parhau i weld twf cynaliadwy ar draws pysgodfeydd a dyframaeth gan sicrhau bod ein cymunedau arfordirol yn parhau i ffynnu.”
Wedi'i ysbrydoli gan ganllaw Farmwell sector amaethyddol Cymru, y cyfeiriadur yw'r canllaw cyswllt dwyieithog cyntaf, deniadol sy'n canolbwyntio ar y sector, a gynhyrchwyd mewn fformat ffisegol ar gyfer Cymru.
Mae'r llyfryn wyth tudalen ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg gan sicrhau gwelededd a hygyrchedd cyfartal i'r ddwy iaith ac mae'n cynnwys cod QR sy'n cyfeirio defnyddwyr at fersiwn ar-lein sydd wedi'i chynnal ar wefan Fishermen’s Mission.
Datblygwyd y cynnwys gyda mewnbwn gan randdeiliaid, gan gynnwys Cymdeithas Pysgotwyr Cymru, y Seafarer’s Hospital Society a Fishermen’s Mission.
Dywedodd Samira Anand, Rheolwr Ymgysylltu â Diwydiant Cymru gyda Seafish, a gefnogodd waith cynhyrchu'r canllaw: “Rydym yn gwybod bod gweithio yn y sector dal pysgod yn dod â phwysau unigryw - nid yn unig i bysgotwyr, ond i’w teuluoedd hefyd.
“Mae’r cyfeiriadur hwn yn dwyn ynghyd y sefydliadau sydd yno i helpu gyda diogelwch, iechyd, lles a sicrwydd ariannol.
“Mae cael canllaw dibynadwy y gellir ei gadw gartref neu ar fwrdd y llong yn gwneud cymorth yn fwy gweladwy ac yn haws i gael mynediad ato.
“Gobeithiwn y bydd yn adnodd gwerthfawr i deuluoedd pysgota ledled Cymru ac yn cryfhau ymwybyddiaeth o’r cymorth rhagorol sydd eisoes ar gael.”
Gellir dosbarthu copïau ffisegol i randdeiliaid a byddant ar gael mewn digwyddiadau diwydiant yn y dyfodol, gyda'r gadwyn gyflenwi bwyd môr ehangach a rhanddeiliaid yn cael eu hannog i hyrwyddo'r adnodd o fewn eu rhwydweithiau.
Mae'r swp cyntaf o gyfeiriaduron eisoes wedi cyrraedd y diwydiant gyda'r gwaith dosbarthu wedi dechrau mewn digwyddiadau diweddar Seafit Wales yn Saundersfoot ac Abertawe lle mynychodd pysgotwyr a'u teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau iechyd a lles.
Atgoffir y sector pysgota yng Nghymru ar hyn o bryd hefyd fod cyllid ar gael o hyd drwy Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru gyda chymorth gan yr Animateurs Pysgota i gynorthwyo pysgotwyr i gael mynediad at y cyllid hwn.
Diben y cynllun yw sicrhau twf cynaliadwy yn y sectorau pysgodfeydd a dyframaethu, yn ogystal â helpu cymunedau arfordirol i ffynnu.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn yma.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: samira.anand@seafish.co.uk.